#HobbiesinWelsh
46. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
DYSGU CYMRAEG
Does dim byd yn rhoi mwy o bleser i mi na dysgu Cymraeg. / Nothing gives me more pleasure than learning Welsh. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 23, 2026 at 8:02 AM
45. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
LONCIAN
Dw i’n gwisgo Lycra pinc pan dw i’n loncian. / I wear pink lycra when I jog. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 22, 2026 at 8:01 AM
44. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
MYNYDDA
Dw i wedi cael yr holl offer ar gyfer mynydda’n ddiogel. / I’ve bought all the equipment to do mountaineering safely. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 21, 2026 at 8:01 AM
43. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
ADARYDDA
Galla i eistedd am oriau pan dw i’n adarydda. I can sit for hours when I’m bird-watching. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 20, 2026 at 8:01 AM
42. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
CERDDED
Dw i’n ceisio cerdded dwy fillter bob dydd. / I try to walk two miles every day. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 19, 2026 at 8:01 AM
41. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
TORHEULO
Yr unig beth dw i eisiau ei wneud ar wyliau ydi torheulo. / The only thing I want to do on holidays is sunbathing. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 18, 2026 at 8:02 AM
40. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
CYFEIRIANNU
Mae cyfeiriannu’n ffordd dda i gael y teulu allan. / Orienteering is a good way to get the family out. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 17, 2026 at 8:02 AM
39. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
CHWARAEON DŴR
Mae Siân yn mwynhau pob math o chwaraeon dŵr. / Siân enjoys all sorts of water sports. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 16, 2026 at 8:02 AM
38. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
MARCHOGAETH
Dw i’n mwynhau marchogaeth ar gyfer hwyl, ddim ar gyfer cystadlu. / I enjoy horse-riding for fun, not for competing. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 15, 2026 at 8:00 AM
37. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
RYGBI
Erbyn hyn mae’n well gen i wylio rygbi ar y teledu / By now I prefer to watch rugby on the TV. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 14, 2026 at 8:02 AM
36. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
PÊL-DROED
Mae Elis yn chwarae pêl-droed i dîm y pentre./ Elis plays football for the village team. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 13, 2026 at 8:01 AM
35. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
GWERSYLLA
Dan ni’n mynd i wersylla fel teulu bob haf. / We go camping as a family every summer. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 12, 2026 at 8:01 AM
34. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
SERYDDIAETH
Dw i’n mwynhau seryddiaeth, ond dw i ddim yn gwybod enwau’r clystyrau sêr yn Gymraeg eto. / I enjoy Astronomy, but I don’t know the names of the constellations in Welsh yet. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 11, 2026 at 8:02 AM
33. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
YSGRIFENNU
Dw i’n gobeithio gorffen ysgrifennu nofel cyn bo hir. / I hope to finish writing a novel before long. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 10, 2026 at 8:02 AM
32. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
GWNEUD PETHAU YN Y TŶ
Does dim pwynt talu rhywun i wneud y gwaith dach chi’n medru ei wneud eich hun. /There’s no point paying someont to do work that you can do yourself. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 9, 2026 at 8:02 AM
31. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
BRODWAITH
Dw i’n mwynhau gwneud brodwaith o flaen y tân. / I enjoy doing embroidery in front of the fire. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 8, 2026 at 8:01 AM
30. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
GWEU
Dw i’n medru gweu siwmper mewn wythnos. / I can knit a jumper in a week. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 7, 2026 at 8:01 AM
29. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
GWYLIO’R TELEDU
Dw i’n gwybod y dylwn i fynd allan, ond dw i’n mwynhau gwylio’r teledu./ I know that I should go out, but I enjoy watching TV. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 6, 2026 at 8:03 AM
28. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
MYND I’R SINEMA
Dw i’n mwynhau gwylio ffilmiau tramor mewn sinema annibynnol./ I enjoy watching foreign films in an independent cinema. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 5, 2026 at 8:01 AM
27. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
PWYTHO/GWNÏO
Mae rhywbeth ymlaciol am eistedd lawr a phwytho. / There’s something relaxing about sitting down and sewing. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 4, 2026 at 8:01 AM
26. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
HEL ACHAU
Dw i’n mynd ar y we i hel achau. / I go online to follow my family tree. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 3, 2026 at 8:02 AM
25. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
TREFNU BLODAU
Mae Elin mor dda am drefnu blodau erbyn hyn, mae hi’n trefnu blodau ar gyfer priodasau. / Elin is so good with flower arranging that she arranges flowers for weddings. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 2, 2026 at 8:01 AM
24. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
GARDDIO
Mae garddio’n donig i mi. / Gardening is a tonic for me. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
June 1, 2026 at 8:02 AM
23. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
GWRANDO AR GERDDORIAETH
Dw i’n defnyddio pennau clust i wrando ar gerddoriaeth pan dw i’n mynd am dro. / I wear headphones to listen to music when I go for a walk. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
May 31, 2026 at 8:02 AM
22. Beth ydi’ch hobi chi? What is your hobby?
MYND I’R DAFARN
Fydda i byth yn yfed mwy na dau beint pan fydda i’n mynd i’r dafarn. / I never drink more than two pints when I go to the pub. #DiddordebauHamdden #HobbiesinWelsh
May 30, 2026 at 8:02 AM