#WythnosAddysgOedolion
Dechreuodd Hannah Rowlatt, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd RNIB ac enillydd Gwobr Ysbrydoli! ddysgu Cymraeg i ennill iaith newydd. Roedd yr hyn a enillodd yn hyder, annibyniaeth a chymaint mwy👏

🎥 Edrychwch ar stori Hannah yn ystod yr #WythnosAddysgOedolion!
September 21, 2026 at 2:02 PM
Mae ein stori olaf ar gyfer #WythnosAddysgOedolion yn dathlu @stgilestrust.bsky.social. Helpodd ymweliad â Norwy, a gefnogwyd gan Taith, y cyfranogwyr i archwilio dulliau newydd o wella, meithrin hyder ac adnabod gwerth profiad bywyd.
September 24, 2026 at 12:04 PM
#WythnosAddysgOedolion: Ysbrydolodd ymweliad Grŵp Dysgu Rhieni Ysgol Uwchradd Cathays â Gorllewin Bengal weithdai creadigol newydd, dysgu diwylliannol a chyfleoedd ESOL yn ôl yng Nghymru. Enghraifft wych o sut mae dysgu rhyngwladol yn cryfhau cymunedau.
www.taith.cymru/story/dysgu-...
September 23, 2026 at 11:19 AM
Al took the next step in his career with a Management Apprenticeship, proving it’s never too late to develop your skills. #AdultLearnersWeek

-

Cymerodd Al y cam nesaf yn ei yrfa gyda Phrentisiaeth Rheoli, gan brofi nad yw byth yn rhy hwyr i ddatblygu eich sgiliau. #WythnosAddysgOedolion
September 23, 2026 at 10:00 AM
#WythnosAddysgOedolion: Rydyn ni'n dathlu Sheba Soul Ensemble a thaith drawsnewidiol i Awstralia a gefnogwyd gan Taith. Drwy gyfnewid diwylliannol â chymunedau'r Cenhedloedd Cyntaf, cafodd y cyfranogwyr safbwyntiau, cysylltiadau ac ysbrydoliaeth newydd y byddant yn eu rhannu ar draws Cymru bellach.
September 22, 2026 at 11:06 AM
🎓 Mae dysgu yn newid bywydau ar bob oedran. Yn ystod #WythnosAddysgOedolion, rydym yn dathlu dysgwyr sy'n oedolion ledled Cymru ac yn galw am fuddsoddiad parhaus mewn cyfleoedd dysgu gydol oes. ✨

📖 Darllenwch ein blog diweddaraf: buff.ly/0nu21Xz
Paid stopio dysgu: Mae diogelu cyfleoedd addysg oedolion ledled Cymru yn hanfodol - ColegauCymru
Mae ColegauCymru yn nodi Wythnos Addysg Oedolion (21-27 Medi) ac effaith drawsnewidiol addysg oedolion ar fywydau pobl, gan rybuddio ar yr un pryd fod tanariannu parhaus ar draws addysg bellach yn…
buff.ly
September 21, 2026 at 11:58 AM
Mae dysgu'n newid bywydau. 🌱

Ar gyfer #WythnosAddysgOedolion, mae Lisa O’Connor o @colegcymraeg.bsky.social yn myfyrio ar ei thaith - o addysgu'r Gymraeg i gefnogi cyfleoedd i eraill - a pham mae #addysggydoloes mor bwysig.

👉 www.colegau.cymru/cy/blog/post...

#PaidStopioDysgu
September 16, 2025 at 2:07 PM
Mae addysg oedolion yn newid bywydau. Yn ystod #WythnosAddysgOedolion, rydym yn dathlu The Tenby Project CIC; helpodd eu taith i Iwerddon, a gefnogwyd gan Taith, oedolion ag anableddau dysgu i ennill hyder ac annibyniaeth, a chael profiadau diwylliannol newydd.
September 21, 2026 at 11:06 AM
“Drwy werthfawrogi dysgu gydol oes, gallwn helpu i greu gweithleoedd iachach, cefnogi twf personol a galluogi pobl i addasu a llwyddo ar hyd eu bywydau.”

✍️ Ar gyfer yr #WythnosAddysgOedolion, mae Deanna Hughes a Carl Hill o Cymru Iach ar Waith yn trafod sut gall cyflogwyr gefnogi dysgu parhaus.
Pam fod dysgu gydol oes yn dda i bobl a gweithleoedd
Yn aml, caiff dysgu gydol oes ei gysylltu gyda chymwysterau a chynnydd mewn gyrfa, ond mae ei fanteision yn ymestyn lawer ymhellach. Gall dysgu gynyddu hyder, rhoi ymdeimlad o gyflawni a helpu pobl i ...
sefydliaddysguagwaith.cymru
September 25, 2026 at 9:40 AM
📖 Fel rhan o’r #WythnosAddysgOedolion, rydym yn rhannu blog gan Angharad Evans, Rheolwr Prosiect Sgiliau a Chyflogadwyedd Uchelgais Cymru, ar bwysigrwydd dysgu gydol oes wrth helpu pobl a chyflogwyr i ddatlbygu’r sgiliau maent eu hangen ar gyfer economi sy’n newid.👇
Datgloi potensial gyda dysgu gydol oes
Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion, mae’n gyfle i gydnabod na fu dysgu gydol oes erioed yn bwysicach i lwyddiant Gogledd Cymru yn y dyfodol.Nid yw dysgu yn dod i ben pan fyddwn yn ymadael â’r...
sefydliaddysguagwaith.cymru
September 23, 2026 at 7:52 AM
✍️ Kay Smith o’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn esbonio pam fod yr #WythnosAddysgOedolion yn foment i ddathlu dysgu gydol oes – ond nad yw dathlu yn ddigon ar ben ei hun.

sefydliaddysguagwaith.cymru/cy/ein-gwait...

#PaidStopioDysgu
Wythnos Addysg Oedolion: Rhoi llais dysgwyr wrth ganol dysgu gydol oes
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn foment genedlaethol i ddathlu grym dysgu gydol oes – ond nid yw dathlu yn ddigon.Os ydym eisiau i fwy o oedolion ddechrau, aros a sicrhau cynnydd mewn dysgu, mae’n rha...
sefydliaddysguagwaith.cymru
September 22, 2026 at 1:55 PM
“Cydweithio yw ein nerth: darparu gwell cyfleoedd i ddysgwyr a buddion parhaus i gymunedau ledled Cymru.”

Yn yr #WythnosAddysgOedolion, mae Kieran Keogh o Bartneriaeth Addysg Oedolion Cymru a Choleg Gŵyr Abertawe, yn ymchwilio pwysigrwydd partneriaeth ar draws y sector addysg oedolion.
Cryfach gyda’n Gilydd: Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru
Mewn tirlun addysgol sy’n newid yn gyflym, ni fu cydweithio erioed yn bwysicach. Mae rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru yn dod ynghyd â darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, y Sefydliad Dy...
sefydliaddysguagwaith.cymru
September 22, 2026 at 9:16 AM
Mae hi'n Wythnos Addysg Oedolion! 🎉

Yn y Coleg Cymraeg, rydym yn falch o gefnogi cyfleoedd i oedolion ddysgu drwy’r Gymraeg, boed hynny ar gyfer datblygiad personol neu broffesiynol.

#WythnosAddysgOedolion #Cymru #AddysgOedolion #DatblygiadPersonol
September 15, 2025 at 8:04 AM
Stori wych ar gyfer #WythnosAddysgOedolion - trwy ei gariad at y sîn roc Gymraeg wnaeth Daniel ddysgu Cymraeg.

Heddiw mae ganddo fe swydd yn hyrwyddo'r iaith i bobl eraill yn y cymoedd.

@learnworkcymru.bsky.social

richardnosworthy.cymru/2025/09/15/p...
Podlediad Hefyd - Pennod 26, Daniel Minty - Richard Nosworthy - Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd, Caerdydd
Pennod 26 o Bodlediad Hefyd, gyda Daniel Minty, sydd wedi dysgu Cymraeg trwy ddiddordeb yn y sîn roc Gymraeg.
richardnosworthy.cymru
September 15, 2025 at 11:46 AM
📣Cadwch y dyddiadau📣

Cynhelir #WythnosAddysgOedolion rhwng 15 – 21 Medi 2025.

Ymunwch â ni am fis o ddathlu dysgu gydol oes #Cymru.🎉

Cofrestrwch eich diddordeb yma👇🏼
www.sefydliaddysguagwaith.cymru/maer-hyn-a-w...

📥Cysylltwch os oes gennych gwestiwn:
alwevents@learningandwork.org.uk
June 6, 2025 at 11:11 AM
Yr #WythnosAddysgOedolion hon rydyn ni'n dathlu Hijinx, sy'n grymuso artistiaid sydd ag anableddau dysgu ac sy'n awtistig yng Nghymru. Gyda chyllid Llwybr 1 Taith, aethon nhw â staff ac artistiaid i Berlin i feithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau trwy gyfnewid rhyngwladol cynhwysol.
September 15, 2025 at 2:51 PM
🌟 Mae #WythnosAddysgOedolion yn dathlu dewrder ac ail gyfleoedd.

Mae taith Shokhan Hasan yn dangos sut y gall Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) ddatgloi cyfleoedd, meithrin hyder, a helpu dysgwyr i symud ymlaen yn gyflymach.

📖 Darllenwch fwy: www.colleges.wales/cy/blog/post...

#PaidStopioDysgu #RPL
September 17, 2025 at 1:00 PM
Dyn ni wedi cael wythnos wych o ddathlu cyflawniadau a chyfleoedd #addysgoedolion ac #addysggydoloes yr #WythnosAddysgOedolion hon ⭐

Boed dilyn angerddau, dysgu sgiliau newydd neu ailhyfforddi ar gyfer gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, mae addysg oedolion yn hanfodol ar gyfer Cymru lewyrchus.
September 19, 2025 at 2:19 PM
🎉 Yr wythnos hon rydym yn dathlu #WythnosAddysgOedolion Cymru - atgof pwerus nad yw dysgu'n dod i ben yn yr ysgol!

Mae addysg gydol oes yn ymwneud â mwy na sgiliau. Mae'n ymwneud â rhoi'r hyder i unigolion ffynnu, i gryfhau ein cymunedau, ac adeiladu economi Gymreig gryf, deg a llewyrchus.
September 15, 2025 at 8:01 AM
📣Rydym yn falch i rannu blog gan @talkolderpeople.bsky.social ar gyfer #WythnosAddysgOedolion!

Mae Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn trafod pam fod dysgu gydol oes yn allweddol i lesiant ar bob oedran.

📰Darllenwch yr erthygl
www.sefydliaddysguagwaith.cymru/news-and-pol...
Sgiliau newydd, cysylltiadau newydd, cyfleoedd newydd: pam fod dysgu gydol oes mor bwysig - Learning and Work Institute
www.sefydliaddysguagwaith.cymru
September 16, 2025 at 3:42 PM
15 - 21/9/2025 Wythnos Addysg Oedolion

Mae wythnos nesaf yn dathlu Addysg Oedolion felly dyma'r cyrsiau bydd gennym - er taw dim ond rhestr aros sydd ar gael i Systemau Trydanol!

Gellir gweld mwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau yma:

cult.cymru/cy/upcoming-...

#WythnosAddysgOedolion #CULTCymru
September 8, 2025 at 3:13 PM
Roedden ni’n falch o ddathlu Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2025 neithiwr🌟

Dangosodd straeon ysbrydoledig sut mae dysgu’n trawsnewid bywydau - gan hybu hyder, agor drysau a chryfhau cymunedau. 👏

➡️ www.colegau.cymru/cy/blog/post...

#WythnosAddysgOedolion #PaidStopioDysgu
September 19, 2025 at 12:32 PM
🌟 Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu 🌟

Yn ystod #WythnosAddysgOedolion rydym yn dathlu Eve Salter, a drodd ei bywyd o gwmpas trwy ddychwelyd i addysg yn ei 30au. Nawr yn ffynnu yn ei gyrfa, mae hi'n ysbrydoli eraill i #PaidStopioDysgu.

👉 Darllenwch ei stori: www.colegau.cymru/cy/blog/post...
September 19, 2025 at 12:32 PM
📚 Mae #WythnosAddysgOedolion yn gyfle gwych i wneud rhywbeth i chi.

Boed i roi hwb i'ch hyder, newid cyfeiriad gwaith, neu ailddarganfod llawenydd dysgu, mae sesiynau blasu am ddim, tiwtoriaid cyfeillgar, a digwyddiadau mewn cymunedau ledled Cymru.

#AddysgGydolOes #PaidStopioDysgu
September 18, 2025 at 7:33 AM
Rydym yn falch o ddathlu #WythnosAddysgOedolion gyda sylw ar Euan, y bu ei brentisiaeth yng Ngholeg Sir Gâr yn ei helpu i ddatgelu a datblygu ei dalent wirioneddol.

🔗 Darllenwch fwy: www.csgcc.ac.uk/cy/newyddion...
Y brentisiaeth a helpodd Euan i ddatgelu ei dalent gwirioneddol
Mae prentis adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr yn rhagori yn ei gyflogaeth a’i raglen brentisiaeth gyda chwmni Morganstone Ltd ac mae wedi ennill Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngwobrau B-WBL sy’n…
www.csgcc.ac.uk
September 17, 2025 at 10:30 AM