#erthyglaullafar
Mae #ErthyglauLlafar parhau! Mis yma, mae’r cyfranwyr sy’n darllen yn cynnwys👉Elinor Wyn Reynolds, Mared Gwyn, Iwan Roberts, Simon Brooks ac Angharad Tomos. Diolch yn fawr i chi ac i #llyfraullafar yn y de a #ChymdeithasDeillionyGogledd am ein helpu! 🙏 Rhannwch, a helpwch ni i ledaenu’r gair!
February 6, 2026 at 5:47 PM
Dyma Shôn Williams yn recordio’i golofn win fisol fel rhan o’n prosiect #ErthyglauLlafar
Ar ôl mwynhau cinio hir ym mwyty tapas Ultracomida yn Arberth, mae Shôn yn argymell gwinoedd o Sbaen a grawnwin y Grenache a’r Godello…
June 28, 2026 at 6:49 PM
Yn ei darn diweddaraf i Barn mae Lowri Cooke yn mynd â ni i #Abertawe i adolygu bwyty #TheShed sy’n rhoi pwyslais ar seigiau a chynnyrch lleol a thymhorol. Gallwch hefyd wrando ar ei hadolygiad drwy gysylltu â ni i gael y fersiwn sain. Dyma hi’n recordio yn stiwdio #LlyfrauLlafar #ErthyglauLlafar
March 15, 2026 at 3:13 PM
Mwynhau darnau meddylgar a difyr, ac am ddysgu am wyddoniaeth? Darllenwch golofn fisol Deri Tomos, a gallwch wrando arni fel rhan o’n menter #ErthyglauLlafar🎧 Dyma fo’n ei recordio mewn stiwdio y mae wedi’i hadeiladu ei hun yn ei gartref… #AI, #tafodartiffisial #haneshynafol #astronomeg ✨
March 15, 2026 at 11:27 AM
✨Rydym wrth ein boddau bod stori fer newydd sbon gan Andrew Teilo yn y rhifyn diweddaraf! Dyma damaid i aros pryd…

🎧 Mae’r stori hefyd ar gael mewn fformat sain, fel rhan o’n menter #erthyglaullafar newydd. Mwy o wybodaeth gan swyddfa@barn.cymru

🎄Rhifyn dwbl Dolig yn y siopau rŵan!🎄 barn.cymru
December 16, 2025 at 5:10 PM